Gwnewch Seiclo'n Ddewis Hawdd
Dychmygwch Gymru lle mae pawb ohonom yn gallu gwneud ein teithiau bob dydd yn ddiogel ar droed neu ar feic, a lle gallwn werthfawrogi cefn gwlad ar gefn beic – i ymarfer corff ac i gael hwyl.
Ar hyn o bryd, mae gormod o bobl yng Nghymru’n teimlo nad oes gennym unrhyw ddewis ond mynd yn y car, hyd yn oed ar gyfer teithiau byr.
Gydag etholiad ar y gorwel a’r polau’n awgrymu newid yn y Senedd, mae arnom angen sicrhau bod ein cynrychiolwyr newydd yn ymwybodol o’r galw am lwybrau seiclo diogel.
Trwy dreulio ychydig o funudau yn ysgrifennu at eich ymgeiswyr yn etholiadau’r Senedd, gallwn greu newid.
Ers mwy na 140 o flynyddoedd, mae Cycling UK wedi bod yn ysbrydoli pobl i seiclo. Gyda’ch help chi, rydym yn ysgogi newid gwirioneddol. Hoffem gadw mewn cysylltiad ynghylch y gwahaniaeth rydych chi’n ei gael, ein gwaith ymgyrchu, prosiectau seiclo a chyfleoedd gwirfoddoli, ynghyd â digwyddiadau, marchnata a gwaith codi arian. Os ydych chi’n hapus i glywed gennym, dylech optio i mewn.
Diogelu data
Byddwn yn cadw eich manylion yn ddiogel. Dim ond ni, neu’r rhai sy’n gweithio i ni, a fydd yn eu defnyddio, ac ni fyddwn yn eu rhannu â neb arall. Rydym yn dadansoddi’r wybodaeth a roddwch am sut rydych wedi’n helpu er mwyn penderfynu pa gysylltiadau a fydd o ddiddordeb i chi ac i’n helpu i ddeall ein cefnogwyr. Rydym hefyd yn defnyddio’r wybodaeth hon i gynnal gweithgareddau ein helusen, e.e. os byddwch yn ymaelodi, gwneud archeb neu wneud rhodd, bydd arnom angen eich manylion i’w prosesu.
I ddysgu mwy neu i ddeall ein hawliau o ran diogelu data, edrychwch ar ein polisi preifatrwydd cyffredinol.